Lensys

Opsiynau - Mathau - Gofynion ffordd o fyw

Mae ein tîm cyflenwi yma i roi cyngor i chi.

Lensys Sbectolau

Mae’r math o lensys sbectol y bydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar amrywiaeth o bethau...

Er enghraifft, Presgripsiwn - Ffordd o Fyw - Hoffter

Bydd ein tîm cyflenwi yn eich cynghori ac yn eich arwain gyda'u gwybodaeth arbenigol ynghylch yr hyn sydd fwyaf addas ar gyfer eich llygaid.

  • O lensys golwg sengl i lensys amrywffocal
  • Lensys tenau ac ysgafn ar gyfer presgripsiynau uwch
  • Lensys galwedigaethol
  • Ysgafn ac araenau sy’n gwrthsefyll crafiadau
  • Araenau gwrth-adlewyrchol i leihau llacharedd
  • Araenau UV
  • Lensys gyrru’n y nos
  • Lensys chwaraeon
  • Lensys polaroid
  • Arlliwiau a lensys haul
  • Lensys sensitif i olau (trawsnewidiol) sy’n newid yn ôl amodau golau.

Beth bynnag fo’ch gofynion o ran lensys – Fel optegwyr annibynnol, gallwn ddod o hyd i’r lensys gorau sy’n addas i’ch llygaid.

Gallwn ddarparu lensys sy’n:

  • Denau
  • Ysgafn
  • Yn gwrthsefyll crafiadau ac yn wrth-adlewyrchol,
  • ac os ydych chi’n sensitif i olau llachar yr haul, gallwn ddarparu lensys sy’n sensitif i olau i chi (Trawsnewidiol) sy’n newid lliw yn ôl amodau golau.

Bydd ein cynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda i asesu gofynion cwsmeriaid unigol yn mynd â chi drwy ein hystod o lensys pwrpasol ac addas, sy’n cynnwys lensys golwg sengl, deuffocal neu amrywffocal.

Araen gwrth-adlewyrchol

Drwy gael araen gwrth-adlewyrchol ar eich lensys, byddwch yn lleihau golau llachar yn ddramatig wrth yrru yn y nos neu o sgriniau cyfrifiadur, ac yn gwella edrychiad eich sbectol yn gosmetig. Beth am uwchraddio hyn gydag araen hydroffobig ac oleoffobig, gan ganiatáu i ddŵr redeg oddi ar y lens yn hawdd, a chadw saim a baw cyffredinol draw, gan wneud eich lensys yn llawer haws eu glanhau? Galwch i mewn i gael gwybodaeth am View Protect Hi-Vision Long Life Coatings.

Lliwiau, arlliwiau a lensys polaredig

Mae gennym amrywiaeth eang o arlliwiau gwahanol ar gyfer pob lens, o arlliwiau graddol i arlliwiau llawn. Brown, llwyd a gwyrdd sydd orau ar gyfer sbectol haul. Mae glas, pinc a melyn ar gael hefyd.

Mae lensys polaredig yn lleihau golau llachar yn ddramatig, gan wella eich golwg mewn amodau heulog iawn. Mae lens polaredig yn ddelfrydol ar gyfer gyrru ar ffyrdd gwlyb neu ar gyfer chwaraeon fel pysgota, sgïo a hwylio.

Lensys sensitif i olau a thrawsnewidiol

Mae amodau golau yn gallu newid yn aml, ac i bobl sy’n sensitif i olau llachar, lensys trawsnewidiol yw’r ateb perffaith. Mae lensys trawsnewidiol yn addasu i amodau golau, gan roi golwg cyfforddus i chi mewn golau llachar. Dan do, mae’r lensys bron yn glir, y tu allan maen nhw’n tywyllu’n gyflym yng ngolau’r haul, gan roi amddiffyniad UV 100% i chi.

Gwrthsefyll Crafiadau

Mae côt galed neu araen sy’n gwrthsefyll crafiadau yn amddiffyn arwyneb y lens rhag crafiadau, felly mae eich lensys yn llai tebygol o gael eu difrodi. Mae’r diogelwch ychwanegol yn ymestyn oes y lens ar yr un pryd â darparu golwg cliriach.

Lensys tenau ac ysgafn

Mae lensys tenau ac ysgafn yn ateb gwych i bobl sydd â phresgripsiynau uwch, sy’n fwy cyfforddus ac yn cynnig ymddangosiad cosmetig gwell, sy’n eich galluogi i gael ystod ehangach o fframiau i ddewis ohonynt.

Lensys amrywffocal

Mae lensys amrywffocal, neu lensys cynyddol fel y cyfeirir atynt weithiau, yn cyfuno presgripsiynau pellter a darllen i un lens, gan roi golwg cywrain a chyfforddus ar bob pellter, gan roi cyfleustod i’r gwisgwr ddefnyddio un pâr o sbectol at bob diben.

Mae amrywiol ddyluniadau o lensys amrywffocal ar y farchnad, ac mae’r dechnoleg y tu ôl i’r lensys yn gwella’n gyson. Gelwir y genhedlaeth newydd o lensys amrywffocal yn dechnoleg ffurf rydd. Mae’r broses ffurf rydd yn caniatáu i ddylunwyr lensys gyfrifo a gweithgynhyrchu’r lens fwyaf cywir posibl. Mae’r rhai sy’n eu gwisgo yn elwa o lensys sydd â’r lefel uchaf o gywirdeb optegol ac arwynebedd gweld â ffocws llawer ehangach.

Mae’n bleser gennym gynnig ein brand Technoleg Amrywffocal Ffurf Rydd ein hunain i chi. Galwch heibio am ragor o wybodaeth neu os oes angen ymgynghoriad Amrywffocal arnoch, cysylltwch â’ch cangen agosaf i gael ymgynghoriad.

cyWelsh