Sbectolau plant

Mae gennym gasgliad gwych o sbectolau plant – gallwch fod yn siŵr y byddan nhw’n dod o hyd i rywbeth fydd yn gwneud iddynt wirioni.

Gyda fframiau wedi’u dylunio’n arbennig i ffitio’r wynebau lleiaf!

Mae ffitiad cyfforddus yn gwbl angenrheidiol, ac rydym bob amser ar gael ar gyfer addasiadau ac atgyweiriadau – o ystyried holl fwrlwm bywydau plant.

Rydym hefyd yn cynnig casgliad hynod cŵl ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn yr holl steiliau a siapiau diweddaraf. Yr hyn sy’n bwysig yw edrych yn dda a hyderus yn gwisgo’u sbectol.

Mae ein casgliad o sbectolau Laser yn rhad ac am ddim gyda thaleb y GIG (mae telerau ac amodau’r GIG yn berthnasol)

Mae lensys cyffwrdd ar gael - byddai angen apwyntiad i asesu addasrwydd.

Mae gennym ni sbectolau chwaraeon, gogls nofio a sbectolau haul ar bresgripsiwn, i gyd ar gael yn Alton Murphy

Piciwch i mewn i gangen yn eich ardal chi i gael mwy o fanylion...

cyWelsh