Lensys Cyffwrdd

Mae llawer o wahanol fathau o Lensys Cyffwrdd ar gael. Gallwch ddibynnu ar ein Optegwyr Lensys Cyffwrdd profiadol i ddod o hyd i’r math mwyaf addas o lens ar gyfer eich anghenion.

Dewisiadau lensys

Math o Lens Nodweddion Buddion
Defnydd untro dyddiol Perffaith ar gyfer defnydd achlysurol a llawn amser. Eu taflu i ffwrdd bob dydd. Hylan, dim angen glanhau, yn gyfleus a didrafferth.
Amlddefnydd Lens ocsigen da. Golwg rhagorol. Cost-effeithiol, cyfleus.
Defnydd Estynedig Lens ocsigen eithriadol o uchel. Deunydd chwyldroadol newydd. Cyfleus, golwg clir bob amser.
Torig Addas ar gyfer pobl ag astigmatedd. Golwg da.
Amlffocal Ffocws ar bellteroedd yn bell ac yn agos. Golwg da.

Defnydd untro dyddiol

Nodweddion: Perffaith ar gyfer defnydd achlysurol a llawn amser. Eu taflu i ffwrdd bob dydd.

Buddion: Hylan, dim angen glanhau, yn gyfleus a didrafferth.

Opsiwn delfrydol i bobl sy’n byw bywyd egnïol a phrysur.

Y gorau o ran hwylustod a chysur:

  • Lensys cyffwrdd newydd sbon bob tro rydych chi’n eu gwisgo
  • Does dim angen hylif glanhau
  • Delfrydol ar gyfer chwaraeon a defnydd achlysurol
  • Addas ar gyfer gwyliau
  • Ar gael yn y rhan fwyaf o bresgripsiynau gan gynnwys Amlffocal a Torig
  • Cynllun Teyrngarwch Lensys Cyffwrdd ar gael - gwiriad, prawf llygaid a gostyngiad ar sbectolau a sbectolau haul.

Holwch eich cangen leol am fanylion.

Defnydd estynedig

Nodweddion: Lens ocsigen eithriadol o uchel. Deunydd chwyldroadol newydd.

Buddion: Cyfleus, golwg clir bob amser.

Mae lensys defnydd estynedig wedi’u cynllunio i gael eu gwisgo’n gyfforddus ac yn ddiogel am sawl diwrnod a noson.

  • Cyflenwad ocsigen rhagorol ar gyfer llygaid iach
  • Delfrydol ar gyfer y rheini nad ydynt yn hoffi’r drafferth ddyddiol o osod a thynnu
  • Y mwyaf cyfforddus hyd yn oed yn yr amgylchedd mwyaf heriol

Amlffocal

Nodweddion: Ffocws ar bellteroedd yn bell ac yn agos.

Buddion: Golwg da.

  • Hwylustod o ran gweld yn bell ac yn agos
  • Nid oes angen sbectol ddarllen ychwanegol
  • Ar gael mewn lensys dyddiol, amlddefnydd a defnydd estynedig

Amlddefnydd

Nodweddion: Lens ocsigen da. Golwg rhagorol.

Buddion: Cost-effeithiol, cyfleus.

  • Opsiynau tafladwy pythefnosol neu fisol ar gael
  • Cyfforddus iawn a gwerth gwych am arian.
  • Dewis rhagorol ar gyfer gwisgo lensys yn aml
  • Trefn glanhau hawdd
  • Ar gael yn y rhan fwyaf o bresgripsiynau gan gynnwys Amlffocal a Torig

Torig

Nodweddion: Addas ar gyfer pobl ag astigmatedd.

Buddion: Golwg da.

Mae’r lensys hyn ar gyfer cywiro astigmatedd:

  • Golwg cywrain a sefydlog
  • Cyfforddus
  • Ar gael mewn opsiynau dyddiol, pythefnosol a misol
  • Ar gael mewn lensys Dyddiol, Amlddefnydd a Defnydd Estynedig

Arbenigol

Gall ein Optometryddion cymwys iawn ac Optegwyr Lensys Cyffwrdd hefyd ffitio amrywiaeth o lensys cyffwrdd ansafonol. Mae’r rhain yn cynnwys lensys athraidd nwy anhyblyg a lensys arbenigol pwrpasol.

Cysylltwch

Cewch wybod pa fath o lens gyffwrdd sy’n gweddu orau i chi.

Fel Optegwyr annibynnol, gallwn ganfod a ffitio'r lensys cyffwrdd sydd fwyaf addas i’ch llygaid.

 

Treial Lensys Cyffwrdd am Ddim

Eisiau profi golwg cyfforddus a heb ffiniau

Trefnwch Dreial Lensys Cyffwrdd AM DDIM.

Cysylltwch â’ch practis lleol a byddan nhw’n trefnu apwyntiad i chi.

Mae angen presgripsiwn cyfredol.

cyWelsh