Plant

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r ymddiriedaeth rydych chi’n ei rhoi ynom ni pan fyddwch chi’n ein dewis ni i roi gofal llygaid i’ch plentyn...

Mae lensys sbectol MiYOSMART bellach ar gael

Mae lensys sbectol MiYOSMART yn arafu datblygiad myopia, er mwyn i’ch plentyn allu carlamu yn ei flaen.

Darganfyddwch fwy

Rydyn ni’n cynnig cyngor proffesiynol arbenigol a gwasanaeth cyfeillgar sy’n siŵr o wneud ymweliad eich plentyn yn un hapus.

Mae’r GIG yn talu am gost y prawf golwg ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed ac o dan 19 oed os ydynt mewn addysg amser llawn.

Os oes angen sbectol, rydym yn rhoi taleb y GIG a fydd yn helpu tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd.

Mae sbectolau Lazer yn ddewis cŵl o fframiau i blant rydyn ni’n eu cynnig am ddim gyda thaleb y GIG yn Alton Murphy.

Dylai plant gael eu gweld gan Optometrydd cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Gorau po gyntaf y bydd unrhyw broblemau gweledol yn cael eu canfod!

Gall golwg gwael gael effaith sylweddol ar ymddygiad a gallu plant i ddysgu.

Rhai arwyddion i gadw llygad amdanynt -

  • Rhwbio eu llygaid yn aml
  • Straenio eu llygaid i weld yn well
  • Eistedd yn rhy agos at y teledu neu ddal llyfr yn rhy agos
  • Cwyno am gur pen
  • Straenio eu llygaid i weld yn well

Lensys sbectol MiYOSMART

Maent yn arafu datblygiad myopia, er mwyn i’ch plentyn allu carlamu yn ei flaen.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth

 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch gangen yn eich ardal chi Ffoniwch ni
cyWelsh