Archwiliad llygaid

Yn Optegwyr Alton Murphy gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwch yn cael archwiliad o’r safon uchaf.

Bydd ein Optometryddion sydd wedi cymhwyso’n llawn yn cynnal archwiliad llygaid trylwyr i sefydlu safon eich golwg ac iechyd eich llygaid.

Bydd yr Optometrydd yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi gael cywiriad gweledol ai peidio. Os canfyddir arwyddion o unrhyw gyflwr neu broblemau iechyd cyffredinol, gellir cynnal profion ychwanegol a allai arwain at atgyfeiriad at eich Meddyg neu Offthalmolegydd i gael archwiliad pellach.

Mae ein holl Optometryddion wedi cofrestru i gymryd rhan yng Ngwasanaeth Gofal Llygaid Cymru (WECS).

Mae hon yn Fenter Gofal Llygaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i warchod y golwg drwy ganfod clefyd y llygaid yn gynnar ac i roi cymorth i’r rheini sydd â golwg gwan ac nad yw eu golwg yn debygol o wella. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar www.eyecarewales.nhs.uk

Ffotograffiaeth Retinol

Mae ffotograffiaeth retinol yn rhoi cyfle i ni ganfod a monitro arwyddion cynnar o unrhyw gyflyrau llygaid sy’n bygwth y golwg. Mae hyn yn cymryd delwedd ddigidol o gefn y llygad y gellir ei dal a’i chadw ar ffeil ar gyfer monitro yn y dyfodol. Mae’r dechnoleg sgrinio retinol hon ar gael mewn canghennau dethol. (Efallai y bydd cost ychwanegol)

OCT – Tomograffeg Cydlyniant Optegol

Yr archwiliad llygaid gorau un

Beth yw archwiliad iechyd OCT?

  • Mae’n gweithio fel sgan uwchsain i raddau
  • Mae’n dangos y tu hwnt i arwyneb y retina ac yn rhoi golwg trawstoriadol o’r haenau o feinwe y tu ôl i’r llygad
  • Mae’n ein helpu i sylwi ar arwyddion cynnar o glefydau retinol amrywiol, gan gynnwys Glawcoma, Retinopathi Diabetig, Dirywiad Macwlaidd Cysylltiedig ag Oedran a llawer mwy
  • Fe welwch chi OCTau yn y rhan fwyaf o adrannau llygaid ysbytai ac mae’r canlyniadau y gellir eu cael yn anhygoel o fanwl.
  • Mae’n addas i blant

Pam ddylwn i ei gael?

  • Bydd cael archwiliad iechyd OCT ar y cyd â’ch prawf llygaid arferol yn ein galluogi i gael y wybodaeth fwyaf manwl am iechyd cyffredinol eich llygaid. Bydd canfod yn gynnar yn arwain at driniaeth amserol a chanlyniadau gwell i iechyd eich llygad a’ch iechyd yn gyffredinol.

Faint o amser mae’n ei gymryd?

  • Proses gyflym iawn heb boen ac mae’n cymryd ychydig funudau

Beth sy’n digwydd yn ystod fy sgan?

  • Mae gofyn i chi eistedd mewn un safle ac edrych ar darged sydd o’ch blaen. Bydd y sgan yn gorffen gyda fflach camera
  • Mae’n driniaeth anymwthiol ac ni fydd yn cyffwrdd â’ch llygad ar unrhyw adeg

Beth sy’n digwydd i fy nelweddau?

  • Bydd eich delweddau’n cael eu storio ar ffeil, felly pan fyddwch chi’n ein gweld ni ar gyfer eich apwyntiad nesaf, gallwn ni gymharu eich delweddau i weld a oes unrhyw beth wedi newid

CANFOD YN GYNHARACH – DIOGELU MWY

Efallai y codir tâl ychwanegol am sgrinio OCT. Mae’r manylion llawn ar gael yn eich practis NAWR YM MANGOR A PHWLLHELI

Rydyn ni wrthi’n cyflwyno’r gwasanaeth hwn ar draws ein practisau er mwyn i’n holl gleifion allu cael sgan OCT.

cyWelsh